.st0{fill:#FFFFFF;}

Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Gweithio mewn partneriaeth ag Engage for Success 

Mae’r dudalen hon ar gael yn y Saesneg / This page is also available in English

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ag Engage for Success i hyrwyddo ymgysylltu ar draws Cymru.

Mae llwyddiant ymgysylltu’r Cynulliad yn cael ei adlewyrchu yn y ffaith iddo fod â safon aur Buddsoddi mewn Pobl, ac yng nghanlyniadau’r arolwg staff. Drwy gefnogi Engage for Success, bydd cyfle i’r Cynulliad ddathlu a hyrwyddoEngage for Success yng Nghymru.

Bydd y Cynulliad yn cynnal lansiad Engage for Success yn adeilad eiconig y Pierhead ddydd Mawrth, 17 Hydref 2017 i helpu i hyrwyddo arferion gorau o ran ymgysylltu ac arwain. Noddir y digwyddiad gan Joyce Watson AC (y Comisiynydd dros Gydraddoldeb, a’r Comisiwn fel cyflogwr staff y Cynulliad).

Engage for Success Cymru

Mae meithrin perthnasoedd a chysylltu â’n cyflogeion yn rhywbeth yr ydym yn ei wneud yn dda iawn yng Nghymru. Felly, gallai ymgysylltu fod yn un o’n dulliau allweddol o wella cynhyrchiant yn gyffredinol yng Nghymru. Mae ymgysylltu â gweithwyr yn gysylltiedig yn uniongyrchol â lefelau perfformiad a’r hyn a gyflawnir gan leoedd gwaith. Felly, pa sector bynnag yr ydym yn gweithio ynddo, mae cynnwys ein gweithlu yn fater o ‘raid’ ac nid yn rhywbeth ‘dymunol’ yn unig.

Os hoffech wybod mwy am ymgysylltu â chyflogeion yng Nghymru, ewch i wefan Grŵp Syniadau a Gweithredu Cymru.

Dyfyniadau am ymgysylltu

Manon Antoniazzi

Prif Weithredwr a Chlerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru


Chris Elias

Cadeirydd, Engage for Success Cymru, Head of Internal Communications, IPO

‘Pa bynnag sector yr edrychwn arno, pa mor fawr neu fach bynnag yw’r sefydliad, mae ymgysylltiad cyflogeion yn hanfodol i wireddu’r canlyniadau y mae ein busnesau yn gweithio tuag at eu cyflawni. Ni ellir prynu ymgysylltiad, na chyflogi pobl sy’n gysylltiedig, mae’n ymwneud â’r berthynas rhwng person â’r sefydliad – ac yn yr ystyr hwnnw, mae’n wirioneddol amhrisiadwy. Yn lle hynny, mae angen buddsoddiad o fath arall, sef buddsoddiad dynol. Dylid hwyluso sgyrsiau, gwrando, datblygu perthnasoedd a chefnogi pawb sydd o’ch cwmpas i gyflawni pethau gwych sydd orau iddynt hwy, i’r sefydliad ac i’r bobl y maent yn eu gwasanaethu.’ #E4S #E4Swales #EngagedEnergy #byddainwych


Barbara Chidgey

Cydlynydd Digwyddiadau, Engage for Success Cymru, BSc Dunelm, AMEC

‘Dylai ymgysylltu â’r bobl yr ydym yn gweithio gyda hwy fod yn ganolog mewn unrhyw sefydliad, ac rydym mewn sefyllfa unigryw yng Nghymru i ddatblygu mewnwelediadau dyfnach ar yr hyn sy’n ein sbarduno. Credaf, pan allwn weld gwerth ein gwaith, yn naturiol rydym yn cynyddu ein cymhelliant i ddysgu rhagor, i gyflawni rhagor ac i ddod â rhagor ohonom ni ein hunain i’r gweithle bob dydd.’  #everydayengagement #lovewhereyouwork


Greg Evans

Llefarydd, Digwyddiad Engage for Success Cymru, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Pŵer Niwclear Horizon


Jo Hicks

Cadeirydd, Digwyddiad Engage for Success Cymru, Cyfarwyddwr, Academi Wales

‘Bob dydd, byddwn ni fel arweinwyr yn gwneud dewisiadau – mae’n rhaid mai arwain er mwyn dysgu yw ein dewis ar ein cyfer ein hunain a rhaid i’n dewis ni ar gyfer pobl eraill arwain at ymgysylltu – os gallwn wneud hyn yn iawn, bydd popeth arall yn dilyn yn rhwydd.’ #Leadingbychoice


John-Mark Frost

Llefarydd, Digwyddiad Engage for Success Cymru

‘Mae ymgysylltu â chydweithwyr yn allweddol wrth ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid da.  Heb fod ein cydweithwyr ar eu gorau, ni allwn ddarparu’r gwasanaeth y mae ein cwsmeriaid yn ei haeddu.’


Angela Hughes

Llefarydd, Digwyddiad Engage for Success Cymru, Prif Weithredwr, Ymddiriedolaeth Ambiwlans Awyr Cymru


Rhodri Wyn Jones

Aelod, Engage for Success Cymru, Rheolwr Datblygu Sefydliadol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

‘Mae ymgysylltu â gweithwyr yn bodoli ym mhob sefydliad. Os yw’r strwythurau cywir ar waith mewn sefydliad, gellir helpu i feithrin y berthynas rhwng gweithwyr a’u gwaith, ac ar y gorau, gellir helpu gweithwyr i ffynnu yn y gweithle. Os ydym yn canolbwyntio ar ein pobl, gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol.’ #happinessintheworkplace #makeadifference


Sian Fording

Cydlynydd Grŵp, Engage for Success Cymru, Arweinydd Tîm Rhith Gynnwys,, Engage for Success

‘Dylai ymgysylltu â’r bobl yr ydym yn gweithio gyda hwy fod yn ganolog mewn unrhyw sefydliad, ac rydym mewn sefyllfa unigryw yng Nghymru i ddatblygu mewnwelediadau dyfnach ar yr hyn sy’n ein sbarduno. Credaf, pan allwn weld gwerth ein gwaith, yn naturiol rydym yn cynyddu ein cymhelliant i ddysgu rhagor, i gyflawni rhagor ac i ddod â rhagor ohonom ni ein hunain i’r gweithle bob dydd.’  #everydayengagement #lovewhereyouwork


Jonathan Matthews

Arweinydd Ymchwil, Engage for Success Cymru, Pennaeth Cymorth Canolog OCSD, DVLA

‘Mae gwir ymgysylltiad â staff yn ymwneud â sut yr ymgysylltir ag unigolion / timau. Dyma’r gwahaniaeth rhwng bod yn dîm / busnes ‘da’ ac yn un ‘gwych’. Y cynhwysion hanfodol, yn fy marn i, yw sut rydych chi’n datblygu, yn arwain, yn cyfathrebu ac yn adolygu â staff. O ran yr arweinwyr sydd wedi ymgysylltu â mi drwy fy ngyrfa, maent wedi gwneud hyn yn dda drwy fuddsoddi yn fy natblygiad, drwy ddeall fy ngwerthoedd craidd, drwy ddarparu annibyniaeth imi a thrwy ddangos i mi beth yw’r posibiliadau ar gyfer y dyfodol.’ #truestaffengagement


Wendy Edwards

Aelod a Noddwr, Engage for Success Cymru, Gweithiwr Proffesiynol Adnoddau Dynol, PwC

‘Ar gyfer unrhyw sefydliad, mae ymgysylltiad yn alluogwr ar gyfer y strategaeth fusnes. Pan fyddwch yn teimlo fod eich gwaith yn eich cymell a’ch ysgogi, byddwch yn gallu cyfrannu’n well at y sefydliad, yn ogystal â chyflawni’ch dyheadau. Mae ymgysylltu yn ymwneud â sut rydych yn creu’r amodau i helpu eich pobl i gyflawni eu potensial’


James Dalton

Aelod a Noddwr, Engage for Success Cymru, Prif Swyddog Gweithredol, E3i Cyf – Gwneud Adnoddau Dynol yn Hawdd!

‘Ni fu hi erioed yn bwysicach i sicrhau bod eich pobl wrth wraidd eich busnes, a chreu diwylliant lle mae pobl am ddod i weithio a gwneud eu gorau i chi ac i’w cwsmeriaid. Ein gweledigaeth yw cael gweithleoedd ble y mae pawb yn mwynhau eu swydd, yn cael eu rheoli gan reolwr gwych, a ble y mae’r busnes yn gweld manteision gweithlu cysylltiedig, drwy’r canlyniadau a gyflawnir ganddynt.’ #greatmanager #ilovemyjob


Maggie Davies

Aelod, Engage for Success Cymru, Pennaeth Cyfathrebu Mewnol, DVLA

‘I mi, y mae ymgysylltu â gweithwyr yn ymwneud â chreu amgylchedd gwaith lle y mae pobl eisiau rhoi o’u gorau – nid bod yn rhaid iddynt. Dylai hyn fod yn flaenllaw mewn unrhyw sefydliad sydd am lwyddo.’ #cyfathrebu #leadership #success


Toby Townrow

Aelod a Noddwr, Engage for Success Cymru, Rheolwr Gyfarwyddwr, 10Eighty Cymru

‘Mae Ymgysylltu â Chyflogeion yn allweddol i helpu i leihau’r bwlch cynhyrchedd – mae gweithwyr sy’n ymgysylltu’n well yn arwain at well canlyniadau i’r sefydliad, i’r gweithiwr ac i’w gleientiaid a’i gwsmeriaid. Mae gweithio tuag at sicrhau gweithlu gwirioneddol gysylltiedig yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliad archwilio pob arfer, er mwyn deall ei effaith ar weithwyr. Rwy’n hynod o gyffrous i fod yn rhan o daith Cymru tuag at sicrhau gweithlu gwell ac i weld manteision i’r economi ac i weithwyr fel ei gilydd.’ #whywouldntyoudoit #youcantaffordnotto


Gary Gill

Cyfarwyddwr Ymchwil, Engage for Success

‘Mae ymgysylltu yn gweithio ar sawl lefel – fel, gyda gweddill y tîm, gyda’r rheolwr llinell, gyda’r gwaith a chyda’r sefydliad.  Rwy’n credu y gall person ymgysylltu â phob un o’r rhain, neu â rhai ohonynt, a gall y lefelau ymgysylltu hynny hefyd amrywio dros gyfnod penodol. I mi, dyma beth sy’n gwneud ‘ymgysylltu cynyddol â gweithwyr’ yn her mor gymhleth a diddorol.’

 


Ein diolch i…

http://engageforsuccess.org/wp-content/uploads/2017/10/EFS-event-logo-loop-website.pptx

{"email":"Email address invalid","url":"Website address invalid","required":"Required field missing"}

Subscribe to our newsletter

Sign up to get the latest news, events, podcasts and more!