.st0{fill:#FFFFFF;}

Digwyddiad cyntaf ‘Engage for Success’ Cymru – 17 Hydref 2017 

Mae’r dudalen hon ar gael yn y Saesneg / This page is also available in English

  • Dyddiad: 17 Hydref 2017
  • Lleoliad: Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd

Ymuno â ni yn ein digwyddiad cyntaf ‘Engage for Success’ Cymru yn adeilad hanesyddol y Pierhead yn ardal brydferth Bae Caerdydd.  Bydd y digwyddiad a gaiff yn llawn astudiaethau achos treiddgar ac yn eich ysgogi i feddwl drwy ymarferion grŵp. Mae wedi’i ddylunio’n ofalus i sicrhau y bydd gennych rywbeth o werth go iawn i fynd ag e’n ôl at eich sefydliad er mwyn rhoi cynnig arno.

Mae ‘Engage for Success’ wedi cynnal digwyddiadau yng Nghymru o’r blaen (cynhaliwyd un o’n digwyddiadau EFS cyntaf erioed yng Nghaerdydd), fodd bynnag, ni fu gan ‘Engage for Success’ erioed grŵp rhanbarthol yn gweithio’n benodol yng Nghymru o’r blaen. Felly, roeddwn yn eithriadol falch o gael fy mhenodi’n Gadeirydd yn gynharach eleni. Mae’r grŵp, a wneir o gyd-wirfoddolwyr ac sydd wedi’i annog gan ddiddordeb pobl broffesiynol ledled y sector, wedi bod yn meddwl am sut y gallwn ni fel grŵp ddod â gwerth i’r rheini sy’n dymuno gwneud ein bywydau yn y gwaith yng Nghymru’n well.

Drwy ddweud ‘gwell’, rydym yn golygu cefnogi arweinwyr ein sefydliadau i fod yr arweinwyr gorau posibl, gwrando ar ein gweithwyr fwy nag erioed, arddangos ein gwerthoedd a’n credoau fel sefydliad gydag uniondeb a pharch a sicrhau ein bod yn adrodd ein hanesion mewn ffordd y gall pobl wir eu cefnogi. Dyma’r pedwar egwyddor sy’n sail i’r mudiad ‘Engage for Success’.

Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim diolch i haelioni ein cefnogwyr.  Buasem wrth ein bodd pe baech yn cymryd rhan ynddo.

Mae’r digwyddiad yn gyfle gwych i ehangu eich rhwydwaith gydag eiriolwyr eraill yn ogystal â chlywed rhai enghreifftiau ysbrydoledig o waith da. Mae’n argoeli i fod yn fore a fydd yn aildanio eich brwdfrydedd, eich penderfyniad a’ch egni yn y gweithle.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau, mae croeso i chi gysylltu. Buasem yn falch iawn clywed gennych, a gobeithaf yn fawr y byddwn yn cwrdd â chi yn yr hyn a fydd yn ddigwyddiad arbennig iawn.

Sicrhau eich lle nawr: https://www.eventbrite.co.uk/e/engage-for-success-wales-inaugural-event-tickets-37272647492

Yn gywir,

Chris Elias

Cadeirydd, Grŵp Meddwl a Gweithredu EFS Cymru

Cymru

{"email":"Email address invalid","url":"Website address invalid","required":"Required field missing"}

Subscribe to our newsletter

Sign up to get the latest news, events, podcasts and more!