.st0{fill:#FFFFFF;}

Cipolwg Llwyddiannus: Beth gall arweinwyr busnes a chwaraeon yng Nghymru ddysgu o’i gilydd? 

Mae’r dudalen hon ar gael yn y Saesneg / This page is also available in English

Des i’n ymwybodol o Engage for Success (EFS) am y tro cyntaf ym mis Hydref 2016 pan ro’n i’n trefnu digwyddiad traws-lywodraeth a oedd yn cael ei gynnal a’i arwain gan DVLA – lle rwyf wedi bod yn gweithio am y 16 mlynedd diwethaf.

Yn ystod sgyrsiau â’r tîm EFS, gwelais gyfle gwirioneddol i gymryd mwy o ran gyda’r mudiad a sefydlu grŵp o unigolion a busnesau o’r un anian i ddysg, rhannu a chydweithio. Bum mis yn ddiweddarach ac mae grŵp E4S newydd wedi’i greu yng Nghymru ac mae momentwm yn cynyddu ar gyfer ein digwyddiad cyntaf sydd wedi’i drefnu ar gyfer mis Hydref 2017!

A minnau’n byw yng Nghymru ac wedi gwirioni ar chwaraeon, rwyf wastad wedi fy rhyfeddu gan arweinyddiaeth mewn chwaraeon a’i ddylanwad ar berfformiad gorau, ymgysylltu a lles.

Boed yn seiclo, F1, Llewod Prydain ac Iwerddon neu ym myd pêl-droed, mae’r gallu i greu amgylchedd perfformiad uchel yn ddihafal ac yn aml sonnir am y tebygrwydd rhwng arweinwyr llwyddiannus ym myd chwaraeon a busnes. Fodd bynnag, tan nawr mae’r cysylltiadau hyn ond wedi bod mewn un cyfeiriad (chwaraeon i fusnes) ac maent fel arfer yn anecdotaidd.

Yn dilyn y digwyddiad traws-lywodraeth y llynedd, dechreuais feddwl sut beth fyddai codi’r caead ar fusnes a chwaraeon. Ro’n i am weld a fyddai hi’n bosibl dechrau rhaglen ymchwil gan ddefnyddio perthnasau presennol sydd wedi’u hen sefydlu gyda thimau chwaraeon rhanbarthol a chenedlaethol, yn ogystal â nifer o fusnesau ledled Cymru.

Drwy ymrwymiad EFS ynghyd â chyd-noddwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd, a chymeradwyaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru, rydym wedi lansio prosiect arloesol o dair blynedd sy’n gofyn y cwestiwn:

‘Beth all arweinwyr busnes ac arweinwyr chwaraeon yng Nghymru ddysgu o’i gilydd i greu a chynnal perfformiad, lles ac ymgysylltiad?’

Bydd yr astudiaeth ymchwil ‘Cipolwg Llwyddiannus’ yn gweld swyddog ymchwil llawn amser o’r Brifysgol yn dod â byd chwaraeon a busnes Cymru yn agosach at ei gilydd. Bydd y gwaith ymchwil yn rhoi cipolwg i dimau sy’n perfformio’n dda ym mhob maes, gan greu cyfle unigryw i ddysgu o’i gilydd mewn darn ymchwil arloesol. Bydd gan y canfyddiadau oblygiadau i economi Cymru a thu hwnt.

Drwy gymorth EFS a’r brifysgol rydym yn denu nifer o sefydliadau sy’n perfformio’n dda o’r byd chwaraeon a busnes yng Nghymru i chwarae rhan weithredol yn yr ymchwil. Bydd yn cynnwys nifer o gyfweliadau a dadansoddiad wedi’i dargedu i gasglu canfyddiadau o grŵp unigryw o fusnesau a sefydliadau chwaraeon. Fel rhan o’r ymchwil, bydd sefydliadau yn cael budd o amrywiaeth o gyfleoedd lle gallant ddysgu, datblygu a hyrwyddo. Ni fydd tâl am hyn a cheir adroddiad unigol gan gynnwys argymhellion cyffredinol a phenodol ar gyfer gwaith presennol a datblygiadau yn y dyfodol.

Bydd y canfyddiadau cyffredinol yn helpu i lywio dysgu yn y dyfodol yn EFS, Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac ar draws nifer o fusnesau/sefydliadau chwaraeon yng Nghymru a thu hwnt.

Diolch i chi am ddarllen,

Jonathan Matthews, Asiantaeth Gyrru a Thrwyddedu Cerbydau (DVLA)

Os hoffech wybod mwy am ymgysylltu â chyflogeion yng Nghymru, ewch i wefan Grŵp Syniadau a Gweithredu Cymru.

{"email":"Email address invalid","url":"Website address invalid","required":"Required field missing"}

Subscribe to our newsletter

Sign up to get the latest news, events, podcasts and more!