SGWRS 1 : ARWEINYDDIAETH SY’N ADEILADU NARATIF STRATEGOL DIDDOROL
Bydd y sgwrs yn archwilio sut y gallai nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) ddarparu metrigau llwyddiant craidd ar gyfer naratif a gweledigaeth strategol sefydliad.
Cyfranwyr: Bydd Sophie Howe (Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru) yn sgwrsio â John Williams (Prif Weithredwr y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth) a Ruth Marks (Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru).
Noddwyr: Diolch i’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth am noddi’r sgwrs hon.
SGWRS 2 – RHEOLWYR YMGYSYLLTIOL YN TALU SYLW I LES
Bydd y sgwrs hon yn archwilio sut mae rheolwyr ymgysylltiol, un arall o’r pedwar galluogwr ymgysylltu, yn talu sylw i iechyd a lles emosiynol aelodau eu tîm.
Cyfranwyr: Bydd James Dalton (Prif Weithredwr E3i) yn sgwrsio â Cath Bailey (Sylfaenydd Office Om, meithrin sgiliau lles), Helen Iliff (anaesthetydd dan hyfforddiant a sylfaenydd cynllun #DistanceAware) ac Andries Pretorius (cyn-chwaraewr rygbi dros Gymru).
Noddwyr: Hoffai Engage for Success Wales ddiolch i CIPD Wales am noddi’r sgwrs hon.
SGWRS 3 : MAE SAFBWYNTIAU AMRYWIOL YN CYFRANNU AT LAIS CYFOETHOG GAN WEITHWYR
Bydd y sgwrs hon yn archwilio sut mae gweithlu sy’n fwy cyfartal ac amrywiol yn cynyddu cyfoeth a chreadigrwydd llais y gweithiwr.
Cyfranwyr: Bydd David D’Souza (Cyfarwyddwr Aelodaeth CIPD) yn sgwrsio â Lynn Abhulimen (Black Young Professionals Cardiff), Karen Davies (Sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Purple Shoots) a Julian John (Sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Delsion).
Noddwyr: Hoffai Engage for Success Wales ddiolch i CIPD Wales am noddi’r sgwrs hon.
SGWRS 4 : UNIONDEB SEFYDLIADOL A BUSNES
Bydd y sgwrs yn archwilio potensial ailfframio’r nodau lles, drwy osod economi sy’n seiliedig ar werthoedd fel nod llesiant canolog y mae pob un o’r chwe arall yn cyfrannu ato. A allai ailfframio o’r fath fod yn sbardun ar gyfer busnes ac economi sy’n seiliedig ar werthoedd yng Nghymru, gan gyflawni’r pedwerydd galluogwr ymgysylltu â gweithwyr?
Cyfranwyr: Bydd Derek Walker (Prif Weithredwr Canolfan Cydweithredol Cymru) yn sgwrsio â Richard Selby (Cadeirydd Cenedlaethol IoD Wales, Cadeirydd Fforwm Economaidd Strategol Torfaen, Aelod o Fwrdd Partneriaeth Twf Economaidd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac Aelod o Bwyllgor Patronau a Chyngori Ymddiriedolaeth y Tywysog) a’r Athro Rachel Ashworth (Deon a Phennaeth Ysgol Fusnes Caerdydd).
Noddwyr: Hoffai Engage for Success Wales ddiolch i Ganolfan Cydweithredol Cymru am noddi’r sgwrs hon.
SGWRS 5 : MAP LLWYBR AR GYFER ARWEINYDDIAETH SY’N MEITHRIN YMGYSYLLTIAD
Bydd y sgwrs olaf hon yn canolbwyntio ar fudiad Engage for Success, y pedwar galluogwr ymgysylltu â gweithwyr a pherthnasedd y nodau lles sydd ar waith yng Nghymru i ddarparu llwyfan i gynorthwyo ymgysylltu ac, yn ei dro, i wella cynhyrchiant.
Cyfranwyr: Bydd yr Athro Carwyn Jones (cyn-Brif Weinidog Cymru) yn sgwrsio â David MacLeod OBE a Nita Clarke OBE, awduron adroddiad MacLeod (2009) a sylfaenwyr Engage for Success.
Noddwyr: Hoffai Engage for Success Wales ddiolch i Goleg Caerdydd a’r Fro am noddi’r sgwrs hon.