.st0{fill:#FFFFFF;}

Bwyta ymgysylltiad i frecwast 

Mae’r dudalen hon ar gael yn y Saesneg / This page is also available in English

Nid wyf ar fy ngorau yn y bore ac, yn sicr, ni fyddai Dangosyddion Perfformiad Allweddol yn fy ysgogi i godi o’r gwely. Ond pan sylweddolais fy mod yn cydganu â chôr torfol yn y digwyddiad i lansio Engage for Success Cymru… gwyddwn y byddai’n werth i mi ailosod y larwm.

Cefais wahoddiad i ymuno ag aelodau Engage for Success ddechrau’r flwyddyn i helpu i hyrwyddo pwysigrwydd ymgysylltu â staff yng Nghymru, ac i drefnu digwyddiad i lansio’r ymgyrch ac i amlinellu ein hamcanion ar gyfer y dyfodol.

Elfen ganolog o’r amcan hwn yw darn o waith ymchwil unigryw sy’n ystyried sut y gall busnesau ac arweinwyr chwaraeon yng Nghymru ddysgu oddi wrth ei gilydd i greu timau uchel eu perfformiad. #Teamworktomakethedreamwork

Lansiwyd Engage for Success Cymru yn adeilad eiconig y Pierhead ddydd Mawrth 17 Hydref 2017 i helpu i hyrwyddo arfer da ym maes ymgysylltu ac arweinyddiaeth.

Manon Antoniazzi (Prif Weithredwr a Chlerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru) oedd y siaradwr cyntaf a thanlinellodd bwysigrwydd ymgysylltu â staff er mwyn helpu i greu’r ‘Gymru rydym yn dymuno’i gweld’, a chreu ffyniant cynaliadwy o ran twf economaidd a lles personol. Rhyfeddais o ddeall bod y bwlch chynhyrchiant yn y DU heddiw yn waeth nag y bu erioed,  a bod cynhyrchiant llafur yng Nghymru bron 20% islaw’r cyfartaledd drwy’r DU. Daeth Manon â’i hanerchiad i ben drwy ddweud bod gan bob un ohonom gyfrifoldeb i fynd i’r afael â’r broblem os ydym am i Gymru ffynnu.

Yna, cafodd pawb yn yr ystafell eu herio gan y ferch ryfeddol, Jo Hicks, i  ddewis o leiaf un syniad i fwrw ymlaen ag ef erbyn diwedd y dydd. Roedd hon yn dasg gymharol hawdd ar ôl gwrando ar y siaradwyr ysbrydoledig a ddaeth â’r pedair agwedd ar y broses ymgysylltu’n fyw:

  • John-Mark Frost, Rheolwr Rhanbarth, yr Adran Gwaith a Phensiynau.
    Astudiaeth achos 1: Gweledigaeth/arweinyddiaeth gref
  • Richard Thorne, Rheolwr Grŵp Adnoddau Dynol, Admiral
    Astudiaeth achos 2: Rheolwyr sy’n galluogi
  • Greg Evans, Cyfarwyddwr Gweithredol, Ynni Niwclear Horizon
    Astudiaeth achos 3: Llais y gweithiwr
  • Angela Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ambiwlans Awyr Cymru
    Astudiaeth achos 4: Sefydliadau unedig
  • Nita Clarke, OBE, Cyd-sylfaenydd Engage for Success
    Prif siaradwr

Llwyddodd yr holl siaradwyr i greu darlun gwerthfawr o’r broses ymgysylltu ac i sbarduno nifer o sgyrsiau o amgylch yr ystafell.

Trafodwyd a yw ymgysylltu’n rhywbeth y mae cyflogwyr yn ei wneud i’w staff, ynteu ai’r cysylltiad emosiynol rhwng staff a’u sefydliad ydyw. Cytunwyd mai cyfuniad o’r ddau ydoedd, lle mae dealltwriaeth o werthoedd ac ymddygiad y sefydliad yn helpu staff i ffynnu yn y gweithle.

Er bod y Cynulliad wedi cael sgôr mynegai ymgysylltu o 74% (ar sail Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil) sef y sgôr uchaf a gafodd unrhyw sefydliad sydd wedi’i leoli yng Nghymru – wrth adael y digwyddiad, roeddwn yn dal yn ceisio meddwl am ffyrdd newydd o hyrwyddo ymgysylltiad, gan sylweddoli y gall rheolwyr a swyddogion gweithredol ddylanwadu ar y broses. Roedd yn glir bod gan bob un ohonom gyfrifoldeb i rannu arfer gorau i helpu i wella ymgysylltiad os ydym am fod yn fwy cynhyrchiol a llwyddiannus yng Nghymru.

Bu’r digwyddiad cyfan yn llwyddiant ysgubol a dangosodd bod awch gwirioneddol i hyrwyddo ymgysylltiad staff drwy Gymru. Cyn gynted ag y canodd y côr eu nodyn olaf, penderfynais mai’r cam cyntaf y byddwn yn ei gymryd fyddai…. trefnu digwyddiad nesaf Engage for Success Cymru!!


Rhodri Wyn Jones, Rheolwr Datblygu Sefydliadol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Twitter: @rwj84

{"email":"Email address invalid","url":"Website address invalid","required":"Required field missing"}

Subscribe to our newsletter

Sign up to get the latest news, events, podcasts and more!