Mae’r dudalen hon ar gael yn y Saesneg / This page is also available in English
“Mae pobl sy’n mwynhau’r hyn maent yn ei wneud yn ei wneud yn well” – Engage for Success Cymru 2017
Ar 17 Hydref cefais y fraint o gadeirio cynhadledd gyntaf Engage for Success Cymru yn Adeilad y Pierhead yng Nghaerdydd. Fe wnaeth 150 o weithwyr o’r sector preifat, y sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol dreulio bore yn edrych ar Adroddiad MacLeod a Clarke ac yn gwrando ar astudiaethau achos o sefydliadau ledled Cymru. Roedd y rhain yn esbonio sut y mae’r pedwar galluogwr ymgysylltu wedi eu helpu i wella, cynnwys, ymgysylltu a grymuso eu gweithwyr.
Y pedwar peth sy’n galluogi ymgysylltu
- Arweinyddiaeth weledol sy’n grymuso, gan ddarparu naratif strategol cryf ynghylch y sefydliad – o ble y mae wedi dod ac i ble mae’n mynd.
- Rheolwyr sy’n ymgysylltu drwy wneud y canlynol: ffocysu eu pobl a rhoi rhwydd hynt iddyn nhw, trin eu pobl fel unigolion, coetsio ac ymestyn eu pobl.
- Mae llais y gweithwyr i’w glywed ledled y sefydliad, yn cadarnhau ac yn herio safbwyntiau, rhwng swyddogaethau ac yn allanol. Caiff gweithwyr eu hystyried yn ganolog i’r atebion.
- Mae uniondeb sefydliadol ar waith – caiff y gwerthoedd sydd ar y wal eu hadlewyrchu yn yr ymddygiad o ddydd i ddydd. Does dim bwlch ‘dweud-gwneud’.
Fel Cadeirydd, roeddwn yn gallu uniaethu â nifer o’r negeseuon allweddol wrth i ni barhau i fwrw ymlaen ag ymgyrch ‘Arwain drwy Ddewis’ Academi Wales ar gyfer 2017-19.
Dim ond os gallwn gysylltu â chalonnau a meddyliau pobl o’r cychwyn cyntaf y gall ymgysylltu weithio. Ni all fod yn adnodd ar lefel arwynebol sy’n cael ei ysgrifennu mewn papur strategaeth a byth yn cael ei draethu na’i arddel ar ei ben ei hun. Nododd John-Mark Frost, Rheolwr Rhanbarth ar gyfer yr Adran Gwaith a Phensiynau bod yn rhaid i’r naratif strategol dreiddio i bob lefel a bod angen i’r negeseuon gael eu clywed yn uniongyrchol o lygad y ffynnon – h.y. y swyddi arweinyddol uchaf. Ni ddylai sefydliadau ddibynnu ar sibrydion a sïon i sicrhau bod y stori’n gywir.
Roedd Richard Thorne, Rheolwr AD Grŵp Admiral, yn awyddus i bwysleisio bod yn rhaid canolbwyntio ar ddod o hyd i unigolion sy’n addas i ddiwylliant eich sefydliad wrth ddod o hyd i dalentau newydd a recriwtio yn fewnol ac yn allanol. Nid yw’n syniad da penodi pobl nad ydynt yn gweddu i’ch sefydliad ac yn y pen draw byddant yn achosi mwy o broblemau i chi na’r nifer maent yn eu datrys – gwers rydym wrthi’n ei dysgu’n araf yn y gwasanaeth cyhoeddus.
Mae llawer o bethau wedi cael eu hysgrifennu am ddiwylliant, ond nododd Greg Evans, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Pŵer Niwclear Horizon gamgymeriad cyffredin sy’n cael ei wneud wrth wrando ar lais y sefydliad. Dywedodd Greg na allwch chi fel arweinydd newid diwylliant – y cyfan y gallwch chi ei wneud yw effeithio ar yr amgylchedd y mae’n datblygu ynddo. Dylai arweinwyr bob amser fod yn ymwybodol o ddarlun presennol neu DNA presennol y sefydliad.
Daeth y wers olaf a ddysgais yn y digwyddiad gan ddwy ddynes arbennig, Angela Hughes, Prif Swyddog Gweithredol Ymddiriedolaeth Ambiwlans Awyr Cymru a Nita Clarke OBE, cyd-sylfaenydd Engage for Success.
Roedd Angela yn dadlau bod yn rhaid i ymgysylltu fod yn seiliedig ar ddidwylledd a bod y conglfeini’n seiliedig ar feithrin a chynnal ymddiriedaeth a gofalu go iawn am y rheini sy’n gweithio yn eich sefydliadau a gyda nhw.
Roedd Nita yn glir mai gwaith yr arweinydd yw sicrhau ystyr a phwrpas, gwerthoedd a moeseg, annibyniaeth, meistrolaeth, twf a lles a bydd gwneud ymdrech yn y meysydd hyn yn sicrhau canlyniadau cadarnhaol i weithwyr a chyflogwyr.
Rydym ni fel arweinwyr yn gwneud dewisiadau bob dydd o ran y ffordd rydym yn dangos wyneb, sut rydym yn ymgysylltu ag eraill, a p’un ai a ydym yn dewis dilyn yr un llwybr neu lwybr gwahanol i’n cyrchfan arweinyddiaeth. Bydd yr arweinydd dewr yn mentro at her Nita ac rwy’n ystyried sut mae modd i mi wneud hyn ar gyfer tîm Academi Wales dros y misoedd nesaf a sut y gall ein rhaglen waith barhau i helpu’r rheini ohonoch chi sydd eisoes ar y daith hon.